Ymgynghorydd Datblygu Pobl a Sefydliadau
People and Organisational Development Consultant
Helo

Rwyf i, Nia Meleri Edwards yn ymarferydd broffesiynol profiadol ym maes Datblygu Pobl a Sefydlaidau gydag angerdd am gefnogi a datblygu talent. Dwi’n barod i’ch herio. Herio i berfformio ar lefel bersonol, tim a sefydliadol neu fusnes. ​
​
Mae gen i brofiad o ymgynghori, cymell a mentora swyddogion, rheolwyr, arweinwyr, aelodau etholedig, grŵpiau a thimau mewn diwylliant gwleidyddol, sefydliadol, busnesau a gweithwyr proffesiynol annibynnol yng Nghymru a thu hwnt. Rwyf wedi cefnogi a gweld canlyniadau, nid dim ond i’r unigolion, ond hefyd i ddatblygiad eu gwasanaethau.
​
Rwyf yn arwain ar flaen y gad wrth annog y defnydd o’r iaith Gymraeg ym myd datblygiad sefydliadol, proffesiynnol a busnes. Fi yw unig berson sydd wedi cwblhau fy nghymwyster Cymhelliant a Mentora trwy gyfrwyng y Gymraeg ac rwyf yn parhau i ysbrydoli wrth wthio ffiniau a mentro wrth weithredu’n arloesol – nid dim ond trwy annog datblygiad proffesiynnol yn y Gymraeg – ond drwy annog eraill i fod yn arloesol a gwthio ffiniau, beth bynnag yw eu maes proffesiynnol neu dyheadau
Yn bersonol, rwyf yn fam, yn wraig ac yn aml – athletwr. Mae fy ngwerthoedd personol yn bwysig iawn i mi. Rwyf yn credu’n gryf mewn datblygu gwasanaethau sydd gyda gwerthoedd moesegol cryf ac sydd yn rhoi budd i bob lefel o gymdeithas.
Cymwysterau
-
Rheoli Prosiect Agile Meistr ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus
-
CMI 7 Rheoli Newid Strategol (lefel Ôl-raddedig)
-
ILM 7 Hyfforddi a Mentora Gweithredol (lefel Ôl-raddedig)
-
DiSC aFive Behaviours of a Cohesive Team Practitioner Certification
-
ILM 5 Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
-
ILM 2 Arweinyddiaeth Tîm Effeithiol
-
NVQ 4 Busnes a Gweinyddu
-
BscEcon Gwleidyddiaeth Ryngwladol*